Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
 


191(v4)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(60 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad gan y Prif Weinidog: Y datblygiadau diweddaraf yn negodiadau Brexit Llywodraeth y DU

(30 munud)

</AI3>

<AI4>

4       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Gronfa Trawsnewid

(45 munud)

</AI4>

<AI5>

5       Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Rhaglen Cartrefi Clyd

(45 munud)

</AI5>

<AI6>

6       Rheoliadau Dyletswydd Gofal Gwastraff o ran Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019

(15 munud)

NDM6970 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2019.  

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI6>

<AI7>

7       Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18

(60 munud)

NDM6969 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.

2. Croesawu bod y “newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a hunan-wella yn parhau ar ei raddfa cyflym”.

3. Nodi bod safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn gynnydd ar y llynedd.

4. Nodi, er bod safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion uwchradd, bod amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.

Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at ganfyddiadau Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru ar gyfer 2017-18 ar gyfer disgyblion yn hanner ysgolion uwchradd Cymru, nad yw mwyafrif y disgyblion ar draws pob oedran a gallu yn gwneud digon o gynnydd.

2. Yn gresynu nad yw mwyafrif y disgyblion, yn hanner yr ysgolion, yn cyflawni yn unol â'u galluoedd erbyn iddynt gyrraedd diwedd addysg orfodol.

3. Yn gresynu at y gostyngiad parhaus yn nifer y lleoliadau sy'n darparu addysg ar gyfer plant 3 a 4 oed.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio unrhyw brosesau archwilio mewnol sydd ganddi o ran consortia rhanbarthol a rhannu canlyniadau unrhyw archwiliad mewnol neu allanol a allai fod wedi cael ei gynnal ers cyhoeddi canllawiau dilynol Estyn ar gyfer consortia rhanbarthol ac arolygwyr ym mis Medi 2017.

Estyn-canllawiau dilynol ar gyfer arolygwyr a chonsortia rhanbarthol – Medi 2017

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ymroddiad parhaus athrawon a staff cynorthwyol yn ein hysgolion yn eu gwaith o godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad Donaldson ar Estyn, Arolygiaeth Dysgu; Adolygiad annibynnol o Estyn a gyhoeddwyd yn Mehefin 2018, ac sydd heb dderbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru hyd yma.

Arolygiaeth Dysgu; Adolygiad annibynnol o Estyn - Graham Donaldson

Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Cut to the Bone?' sy’n cadarnhau bod gwariant ysgol yn 2017-18 £324 y disgybl yn is mewn termau real na’r ffigwr cyfatebol yn 2009-10.

Prifysgol Caerdydd - Cut to the Bone? An analysis of Local Government finances in Wales, 2009-10 to 2017-18 and the outlook to 2023-24 (Saesneg yn unig)

Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi llythyr agored ASCL Cymru a’i sylwadau fod yna argyfwng cyllid difrifol mewn ysgolion yng Nghymru sydd yn cael effaith andwyol ar bobl ifanc Cymru.

Llythyr agored gan ASCL Cymru at y Gweinidog Addysg (Saesneg yn unig)

Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gwariant teg o’r gyllideb a fydd yn ysgafnhau’r pwysau presennol sy’n bodoli ar ein hysgolion.

</AI7>

<AI8>

8       Cyfnod pleidleisio

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 20 Chwefror 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>